Eich cysylltu â'r hyn sy'n bwysig
 
  • Digwyddiadau yn Stadiwm Principality

    Train Travel to the Principality Stadium, Cardiff

    Dim ond tafliad carreg yw gorsaf Caerdydd Canolog o Stadiwm Principality yng nghanol y ddinas ac ar ddiwrnodau gemau neu ddigwyddiadau eraill. 


    Search and Buy train tickets

    Gall gwasanaethau trenau i Gaerdydd fod yn hynod o brysur. Ein cyngor i chi os ydych chi’n teithio ar y trên i fynd i gêm yw ceisio cyrraedd digon o amser cyn i’r digwyddiad ddechrau.

    Bydd rhai o feysydd parcio gorsaf Caerdydd Canolog ar gau cyn ac yn ystod y gemau ac fel arfer bydd gorsaf Caerdydd Heol y Frenhines yn cau ychydig cyn diwedd y digwyddiad. 

    Dylech fynd yn ôl i orsaf Caerdydd Canolog ar ôl y digwyddiad lle bydd system ciwio ar waith i gael pawb adref yn ddiogel. Mae’n bosibl y disgwylir i chi giwio y tu allan i’r orsaf cyn cael eich gadael ar y platfform i fynd ar drên.


    Mwy o wybodaeth