Stadiwm Dinas Caerdydd

Os ydych chi’n teithio i Stadiwm Dinas Caerdydd i
gemau pêl-droed ar y trên, bydd y wybodaeth ganlynol yn helpu i wneud eich
taith yn ddiogel ac yn syml.

Bydd systemau rheoli torfeydd ar waith yng ngorsaf
Parc Ninian a gorsaf Grangetown ar ôl y gêm, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn
cyrraedd yr orsaf mewn da bryd. Fodd bynnag, fe’ch cynghorir yn gryf i
ddefnyddio gorsaf Grangetown gan fod trenau hirach ac amlach yn aros yn yr
orsaf hon.
Gorsaf Grangetown
Mae trenau i Grangetown trwy Gaerdydd Canolog yn
rhedeg bob rhyw 12 munud o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Dim ond gwaith 10 munud o
gerdded ar hyd Sloper Road sydd rhwng yr orsaf a’r Stadiwm.
Dylai teithwyr sy’n methu â defnyddio’r grisiau wrth
orsaf Grangetown gysylltu â Gwasanaeth Teithio â Chymorth Trenau Arriva Cymru o
leiaf 24 awr ymlaen llaw.
Gorsaf Parc Ninian
Mae trenau i Barc Ninian ar hyd Llinell y Ddinas yn
rhedeg bob rhyw 30 munud o ddydd Llun i ddydd Sadwrn tan 1836, ac wedyn bob rhyw
60 munud gyda’r nos. Nid oes unrhyw wasanaethau ar Linell y Ddinas ar ddydd
Sul.
Dim ond ar ddiwrnodau gemau mae’r newidiadau hyn yn
berthnasol.
Rhagor o wybodaeth