Ceisiadau i ffilmio gyda
Threnau Arriva Cymru
Diolch am ystyried Trenau Arriva Cymru ar gyfer eich lleoliad ffilmio
nesaf. Yma cewch ragor o wybodaeth am y gweithdrefnau mae angen eu dilyn er
mwyn cael caniatâd i ffilmio, ynghyd â manylion ynghylch sut i gyflwyno’ch
cais.
Gyda 244 o orsafoedd
ledled Cymru a’r gororau, gall Trenau Arriva Cymru gynnig amrywiaeth o
leoliadau i ateb gofynion pob math o gwmnïau cynhyrchu, gan gynnwys ffilmio ar
gerbydau ac ar blatfformau.
Mae ffilmiau, hysbysebion, rhaglenni dogfen a dramâu i gyd wedi cael eu
ffilmio ar ein safleoedd, a gellir trefnu hyn trwy anfon neges e-bost at
filming@arrivatw.co.uk gyda’ch Ffurflen Gais i Ffilmio a chopi o’ch yswiriant atebolrwydd
cyhoeddus, asesiad risg a datganiad dull.
Bydd y tudalennau gwe
canlynol yn rhoi i chi wybodaeth ychwanegol ynghylch sut i ddechrau ar y
gwaith, ynghyd â’r ffurflenni cais i’w lawrlwytho.
Edrychwn ymlaen at
weithio gyda chi.
Sut i wneud cais
Rydym wedi paratoi
canllawiau i’ch helpu i lenwi’ch ffurflen gais i ffilmio gyda Threnau Arriva
Cymru. Dilynwch y camau hyn er mwyn sicrhau y gallwn brosesu’ch cais i ffilmio:
Ymchwil:
Dod o hyd i orsafoedd,
gwasanaethau a llwybrau penodol Trenau Arriva Cymru.
Rhoi rhybudd:
Cynllunio ymlaen llaw i
ffilmio yn yr orsaf o’ch dewis. Mae angen 14 diwrnod gwaith o leiaf inni
brosesu’ch cais i ffilmio*.
Ffurflenni Cais a Ffioedd:
Dylech lawrlwytho’r ffurflen gais i ffilmio a’r wybodaeth am ffioedd. Ni
allwn fwrw ymlaen â’ch cais i ffilmio heb eich ffurflen gais.
Cadarnhad
Bydd y ffurflen gais yn
gofyn am fanylion llawn eich gweithgaredd arfaethedig. Dylid ei llenwi a’i
dychwelyd atom. Ni allwn brosesu’ch cais i ffilmio os na roddir y manylion hyn.
Wedi i chi gyflwyno’ch cais, bydd ein hadran Diogelwch yn ei ystyried a byddwn
wedyn yn anfon Ffurflen Asesu Risg atoch i gael ei llenwi.
* Mae hyn er mwyn
caniatáu digon o amser ichi lenwi’r dogfennau angenrheidiol ac inni ystyried y
cais, er mwyn rhoi’r achrediad Iechyd a Diogelwch angenrheidiol ac er mwyn
trefnu goruchwyliaeth lle bo angen.